P-04-559 Ymwybyddiaeth mewn Ysgolion Uwchradd o Hunan-niweidio

 

Geiriad y ddeiseb:

 

Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i sefydlu rhagor o raglenni addysgol (yn benodol mewn Ysgolion Uwchradd) i leddfu camddealltwriaeth llawer o bobl o beth yw hunan-niweidio.

Mae hwn yn fater cynyddol ymysg pobl ifanc yng Nghymru ac, yn ôl arolwg gan y BBC, mae 43% o bobl yn adnabod rhywun sydd wedi hunan-niweidio. Yn yr un arolwg, cofnodwyd bod 41% o bobl yn credu bod hunan-niweidio yn weithred hunanol

 

Gwybodaeth ychwanegol: Oherwydd nifer digamsyniol yr achosion o hunan-niweidio ymysg pobl ifanc yn eu harddegau yng Nghymru, credaf y dylid hybu ymwybyddiaeth a hygyrchedd am y pwnc. Pam y dylai person ifanc ddioddef yn dawel? Dyna pam yr wyf yn credu y dylem ni, fel gwlad, ddarparu deunyddiau mwy sylweddol i ddioddefwr allu cael cymorth am ddim i frwydro yn erbyn hunan-niweidio.

 

Prif ddeisebydd: Eleanor Price

 

Ysytyriwyd am y tro cyntaf gan y Pwyllgor:  17 Mehefin 2014

Nifer y llofnodion: 12